Mae gwefan y Porth Termau hefyd yn darparu rhai geiriaduron fel ffeiliau er mwyn eu llwytho a’u hagor o fewn Cysgeir.
Mae’r cyfarwyddiadau isod yn ddilys ar gyfer fersiwn cartref Cysgliad (sy’n cynnwys Cysill a Cysgeir).
Os ydych chi’n defnyddio fersiwn rhwydwaith o Cysgliad, mae modd i chi ddilyn y cyfarwyddiadau isod hefyd a chadw’r geiriadur mewn cyfeiriadur ar eich cyfrifiadur personol chi. Fodd bynnag, os ydych chi am osod y geiriadur yn y cyfeiriadur canolog i’r holl rwydwaith gyda gweddill ffeiliau Cysgliad, bydd angen i chi ofyn i weinyddwr y system wneud hynny drosoch chi.
Cyfarwyddiadau
Cliciwch ar ddolen ‘llwytho i lawr’ y geiriadur dan sylw a chadwch mewn cyfeiriadur y mae gennych hawliau ysgrifennu iddo e.e. ‘LlyfrgelloeddDogfennauCysgeirGeiriaduron’ . Dadsipiwch y ffeil zip er mwyn tynnu allan ddwy ffeil o’r un enw (ond gydag estyniadau gwahanol).
Agorwch Cysgeir ac yna dewiswch ‘Ymddangosiad’-> ‘Newid Geiriadur’ :
Yn y ffenestr newydd, cliciwch ar y botwm ‘Ychwanegu’:
Ewch i’r cyfeiriadur lle mae ffeiliau newydd Cysgeir, dewiswch y ffeil newydd a chliciwch ar ‘Agor’. Fe fydd y geiriadur newydd yn ymddangos yn y rhestr:
Cliciwch ar y botwm ‘Cau’.
Bydd cofnodion yn ymddangos o fewn chwiliadau: