Ap Geiriaduron

link-badge-appstore en_generic_rgb_wo_45

Mae’r Ap Geiriaduron yn cynnwys y geiriadur cyffredinol Cysgair, a hefyd y geiriaduron termau safonol ar gyfer ysgolion a cholegau addysg bellach Cymru, Y Termiadur Addysg. ac ar gyfer prifysgolion Cymru, Geiriadur Termau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’r geiriaduron hyn i gyd yn rhai Saesneg-Cymraeg/Cymraeg Saesneg all-lein lle nad oes arnoch angen cyswllt gwe i’w defnyddio.

Nodweddion:

  • Chwilio’n sydyn mewn amser real
  • Geiriadur all-lein er mwyn chwilio ar unrhyw adeg
  • Ap cyffredinol ar gyfer Android, iPad a’r iPhone
  • Graffigau ar gyfer Retina Display
  • Iaith y sgrin ar gael yn Gymraeg neu Saesneg, gyda modd i newid yr iaith
  • Y gallu i ddad-dreiglo a dad-redeg berfau i ddangos ffurf wreiddiol geiriau
  • Nodwedd manylu er mwyn cael gwybodaeth fwy manwl ar unrhyw air
  • Chwilio gyda nodau chwilio; e.e. ei ddefnyddio fel odliadur drwy chwilio am ‘*aith’ er mwyn dangos geiriau sydd yn gorffen gyda ‘aith’
  • Cynnwys geiriadur Cysgair, sy’n eiriadur disgrifadol hwylus
  • Cynnwys geiriadur Y Termiadur Addysg sydd i’w weld ar-lein ar termiaduraddysg.org; wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru fel geiriadur o dermau safonol ar gyfer ysgolion a cholegau addysg bellach Cymru
  • Cynnwys Geiriadur Termau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol; sy’n cynnwys diffiniadau, lluniau a diagramau, ac a ariannwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol fel geiriadur o dermau safonol ar gyfer addysg uwch cyfrwng Cymraeg
  • Modd chwilio’n bellach ar-lein gyda’r Porth Termau ar termau.cymru
  • Diweddariadau awtomatig er mwyn ychwanegu termau a geiriau newydd wrth i’r geiriaduron sydd ynddo dyfu

Mae’r Ap Geiriaduron yn ap Prifysgol Bangor. Rhan-ariannwyd y fersiwn gwreiddiol gan gynllun Go Wales. Derbyniwyd grant bychan gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol er mwyn addasu’r ap i fedru derbyn y diffiniadau, delweddau a diagramau sydd yn eu geiriadur hwy.

Datblygwyr:
Patrick Robertson, David Chan, Dewi Bryn Jones.

Golygyddion / Terminolegwyr:
Delyth Prys, Gruffudd Prys, Tegau Andrews.