Ynghylch

Mae’r Porth Termau yn cynnull ynghyd cynnwys y geiriaduron termau sydd wedi’u datblygu yn y Ganolfan Safoni Termau a phartneriaid cymeradwy eraill ers 1993 mewn un gwefan hawdd ei chwilio.

Cliciwch ar Chwilio yn y bar uchod i ddechrau chwilio. Mae cyfarwyddiadau ar gael drwy glicio ar Cyfarwyddiadau.

Gallwch weld manylion y geiriaduron termau unigol sydd wedi eu cynnwys yn y Porth Termau drwy glicio ar Y Geiriaduron Termau.

Cefndir

Mae’r Ganolfan Safoni Termau wedi gwasanaethu Cymru ers 1993 gan gynhyrchu llu o eiriaduron termau yn ystod y cyfnod hwnnw, mewn print ac mewn fformatau digidol arloesol. Mae’r Porth Termau hwn yn adnodd cenedlaethol sy’n eich galluogi i chwilio trwy gynnwys y mwyafrif llethol o’r geiriaduron termau hynny ar y we, o un lleoliad hwylus, a hynny am ddim.

Mae manylion y geiriaduron termau sydd wedi’u cynnwys o fewn y Porth Termau i’w cael yma. Ychwanegir geiriaduron termau newydd sydd ar y gweill ar hyn o bryd yn y Ganolfan Safoni Termau i’r wefan wrth iddynt ddod yn barod i’w cyhoeddi.

Lleolwyd y Ganolfan Safoni Termau ar y cychwyn yn Ysgol Addysg Prifysgol Bangor, ond mae wedi bod yn rhan o Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor ers 2001. Mae wedi cael ei harwain ers y dechrau gan Delyth Prys, ac ar hyn o bryd mae yno ddau derminolegydd llawn amser arall, Gruffudd Prys a’r Dr Tegau Andrews. Datblygir y gronfa ddata, rhyngwyneb gwe, ac adnoddau digidol eraill gan Dewi Bryn Jones a David Chan, datblygwyr meddalwedd yr Uned Technolegau Iaith.