Allwedd

Dyma allwedd i’r byrfoddau a’r confensiynau a ddefnyddir gan y Porth Termau:

adf – adferf (adverb)
ans – ansoddair (adjective)
be – berfenw (verb noun)
eb – enw benywaidd (feminine noun)
eg – enw gwrywaidd (masculine noun)
eg/b, eb/g – enw gwrywaidd neu fenywaidd (masculine/feminine noun)
ell – enw lluosog (plural noun)

adj – adjective (ansoddair)
n – noun (enw)
v – verb (berf)

Mae’r rhan ymadrodd yn cyfeirio at yr ymadrodd cyfan lle ceir mwy nag un gair, ac nid at eiriau unigol o fewn y term. Er enghraifft, mae ‘tâl mamolaeth’ (maternity payment) wedi’i restru fel enw gwrywaidd, am fod y ddau air fel ymadrodd yn gweithredu fel enw gwrywaidd.

Defnyddir ‘mass noun’ a ‘count noun’ i ddisgrifio enwau yn Saesneg. Mae ‘mass noun’ yn cyfeirio at bethau na ellir eu rhifo ac nad oes modd creu lluosog ar eu cyfer, ac yn aml iawn, defnyddir berfenw i gyfateb iddynt yn Gymraeg. Mae ‘count noun’ ar y llaw arall yn cyfeirio at rywbeth y gellir ei rifo a’i fynegi yn y lluosog, a defnyddir enw i gyfateb iddo yn Gymraeg.

Fel arfer, rhoddir un term yn unig yn Gymraeg i gyfateb i un cysyniad. Hwn yw’r term technegol sydd wedi bod drwy broses safoni ac sy’n cael ei dderbyn fel y term cymeradwy (preferred term). Ceir eithriadau prin lle dangosir dau derm safonol, fel arfer lle ceir gwahaniaeth pendant rhwng arfer de a gogledd Cymru, a lle na ellir rhoi blaenoriaeth i’r naill dros y llall. Mewn rhai geiriaduron unigol, dangosir hefyd dermau eraill a ganiateir (admitted terms), mewn print italig rhwng cromfachau ar ôl y term cymeradwy. Os oes llinell drwy derm yn geiriaduron hyn, golyga ei fod yn derm anghymeradwy (deprecated term) ac na ddylid ei ddefnyddio.